Mae carnedd goffa o gerrig crwn o’r traeth cyfagos wedi’i chodi wrth ymyl y twyni tywod, ychydig uwchlaw marc y penllanw.
‘Bedd’ cymeriad ffuglennol o’r enw Dobby yw’r garnedd, sef y coblyn y cafodd ei farwolaeth a’i gladdedigaeth eu ffilmio yn Freshwater West, Sir Benfro ar gyfer ‘Harry Potter and the Deathly Hallows - Part 1’.
Mae’r garnedd wedi’i chodi bob yn dipyn gan amryw aelodau anhysbys o’r cyhoedd. Ar lawer o’r cerrig crwn, gwelir negeseuon a ysgrifennwyd gan y sawl sydd wedi gosod y cerrig ar y garnedd.
Cafodd ein harolwg ffotogrametreg ei gynnal ym mis Mai 2022. Mae’r safle wedi’i restru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: NPRN704008 https://coflein.gov.uk/cy/safle/704008/
Cafodd y gwaith ei gyflawni’n rhan o Brosiect CHERISH. I gael gwybod mwy, ewch i’n gwefan: http://cherishproject.eu/cy/
Comments