Lloc isgylchog ddeuglawdd fechan ag amddiffynfeydd cadarn yn sefyll ar fryncyn bychan yw Caer Bach. Mae’n tarddu o’r Oes Haearn (tua 800 CC - 74 OC), er bod cytiau canoloesol hirion gerllaw’n dangos i’r cyffiniau gael eu hail-ddefnyddio. Mae’n heneb cofrestredig mewn ardal archaeolegol gyfoethog. Mae golygfeydd da i Ddyffryn Conwy, ond gan fod tir uchel i’r gogledd-orllewin yn edrych drosto, mae’r safle’n amddiffynnol fregus.
Mur carreg gyda phorth syml yw’r amddiffynfa fewnol. Mae’r lloc allanol yn fras gonsentrig, wedi ei ffurfio o ragfur a ffos. Tu mewn i’r gaer adnabyddwyd tŷ crwn, ac efallai bu eraill yno.
Yn Nhachwedd 2019, gyda chymorth grant Cadw cynhaliodd YAG arolwg topograffig o’r safle (wedi gwaith llosgi eithin ddatgelodd manylyn oedd cynt ynghudd), wnaiff roi gwybodaeth ar gyfer rheolaeth a dehongli. Mae’n rhaid bod bryngeiri wedi bod yn symbolau o rym yn y dirwedd, a’u swyddogaeth yn ymwneud lawn cymaint â rhwysgfawredd ac arddangos ag amddiffyn. Mae’n bosib bod eu rôl wedi newid dros amser.
Comments