Caer Danddaearol B Ail Ryfel Byd Nant Ffrancon3D ModelNoAI
Mae Caer Danddaearol B yn betryalog, yn cyfeiriadu o’r dwyrain i’r gorllewin, gyda tho gwastad o goncrid cyfnerthedig. Roedd llystyfiant a dyfai ar y to, sydd bellach wedi mynd i raddau helaeth, yno’n fwriadol i guddio’r adeiladwaith. Mae 3 twll bach petryalog yn y mur ar yr ochr lydan ogleddol, 2 ymhob un o’r 2 ochr gul, 2 arall ar yr ochr ddeheuol. Yn y corneli gogledd-ddwyreiniol/gogledd-orllewinol mae 2 dwll crwn wedi eu leinio gyda pheipen seramig.
Un o 2 gaer danddaearol sydd, ynghyd â blociau gwrth-danc, 6 llwyfan mortar sbigod a 3 safle milwyr traed yn ffurfio Heneb Cofrestredig CN399 Amddiffynfeydd Gwrth-Oresgyniad Nant Ffrancon, rhan o linell rwystr Rhif 23 y Rheolaeth Gorllewinol (Bangor i Porthmadog), yn amddiffyn Dyffryn Ogwen. Mae’n dyddio i gyfnod cynnar yr Ail Ryfel Byd, byddai’n cael ei gwarchod gan Warchodlu Cartref Bethesda.
Comisiynwyd y model gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cafodd ei lunio gan YAG cyn gwaith clirio ac atgyfnerthu.
Comments