Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r CAMBANK ydy’r llongddrylliad hwn. Agerlong 3,111 tunnell fetrig a oedd yn eiddo i Gwmni Llongau Merevale o Gaerdydd oedd y CAMBANK. Roedd hi ar ei ffordd o Huelva yn Sbaen i Garston, Glannau Mersi. Tua 10 milltir i’r dwyrain o Drwyn Eilian, Môn, ymddangosodd llong danfor yn sydyn a thaniodd dorpido’n ddi-rybudd at y CAMBANK. Cafodd ei tharo yn ei chanol a dechreuodd suddo ar unwaith.
The most recent surveys have confirmed that this wreck is the CAMBANK. The CAMBANK was a 3,111-tonne steamship owned by Merevale Shipping Company of Cardiff. She was en route from Huelva in Spain to Garston, Merseyside. About 10 miles east of Point Lynas, Anglesey, a submarine suddenly appeared and without warning sent a torpedo at the CAMBANK. She was hit amidships and immediately began to sink.
Comments