Mae safle rhodlong ddrylliedig yr ALBION ar draeth Albion Sands yn Sir Benfro. Ar 18 Ebrill 1837, ar y ffordd o Ddulyn i Fryste, tarodd y llong yn erbyn craig wrth deithio drwy Swnt Jack gerllaw a chafodd ei thynnu i’r lan er mwyn ceisio achub y llong, y criw, y teithwyr a’r cargo. Cafodd pob un o’r criw a’r teithwyr eu hachub, yn ogystal â llawer o’r cargo. Nid oedd yn bosibl achub y llong a chafodd ei chwalu ar y traeth. Ers hynny, mae’r traeth ynghyd â’r gweddillion archaeolegol wedi’u henwi ar ôl y llong.
Cafodd y model hwn o safle’r ALBION ei gofnodi ar 1 Ebrill 2022 gan ddefnyddio drôn DJI Mini2 yn rhan o waith monitro rheolaidd. Mae’r ALBION wedi’i rhestru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN 272842) https://coflein.gov.uk/cy/safle/272842/
Cafodd y gwaith ei gyflawni’n rhan o Brosiect CHERISH. I gael gwybod mwy, ewch i’n gwefan: http://www.cherishproject.eu/en/
Comments