Cafodd y tynfad VERNICOS ALEXIA ei ddryllio ym mis Hydref 1981 ar arfordir Sir Benfro, i’r gorllewin o Solfach, tra oedd ar ei ffordd o Lerpwl i Wlad Groeg.
Roedd y tynfad yn un o dri bad a oedd bron yn union yr un fath â’i gilydd. Collwyd pob un ohonynt yn yr un man ar yr un pryd ar ôl i injan y bad blaen, a oedd yn tynnu’r ddau arall, fethu. Cafodd pob criw ei achub gan Fad Achub Tyddewi ac un o hofrenyddion chwilio ac achub yr Awyrlu Brenhinol.
Cafodd y tynfadau eu hachub hefyd wedi iddynt gael eu dryllio, ac maent wedi chwalu ymhellach ers 1981. Fodd bynnag, mae rhannau pwysig o gregyn y badau, eu peirianwaith, eu gosodiadau a’u ffitiadau i’w gweld o hyd ar y traeth ac maent yn dal yn weddol gyfan. Mae manylion pob un o’r tri thynfad wedi’u nodi ar Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cyfeirnod VERNICOS ALEXIA yw NPRN 273260 https://coflein.gov.uk/cy/safle/273260/
Gwnaethpwyd y gwaith fel rhan o Brosiect CHERISH. I ddarganfod mwy, ewch i’n gwefan: http://cherishproject.eu/cy/
Comments