Nickel Iron Meteorite | Meteorit haearn nicel3D ModelNoAI
Dyma un o’r miloedd lawer o ddarnau o feteorit a ddisgynnodd i’r Ddaear ar 12 Chwefror 1947, ym mynyddoedd Sikhote-Alin, i’r gogledd-ddwyrain o Vladivostok, Rwsia. Soniwyd am olau llachar yn yr awyr a sŵn byddarol i’w ganlyn. Wrth i’r meteorit gyrraedd yr atmosffer ar gyflymder o ryw 14 km yr eiliad, dechreuodd chwalu’n ddarnau. Fe wnaeth rhai darnau o’r meteorit greu craterau, gyda’r mwyaf ohonynt yn mesur rhyw 26m ar draws a 6m o ddyfnder.
This is one of several thousand fragments of a meteorite which fell to Earth on February 12, 1947, at Sikhote-Alin, northeast of Vladivostok, Russia. The fall was observed as a bright light in the sky accompanied by a deafening noise. As the meteorite entered the atmosphere, at a speed of about 14 km\s, it began to break apart. Some fragments of the meteorite made craters, the largest of which was about 26m across and 6m deep.
Comments