Porth Eglwys Sant Cybi, Caergybi, Ynys Môn3D ModelNoAI
Porth Eglwys Sant Cybi, Caergybi, Ynys Môn
89
89 Views
4Like
Triangles: 500k
Vertices: 306.7k
More model informationAdeiladwyd y rhan gynharaf o Eglwys Sant Cybi, Caergybi, Ynys Môn yn ystod y 13eg ganrifa hynny tu fewn i furiau caer Rufeinig. Ychwanegwyd y porth ym mlynyddoedd cynnar y 16eg ganrif fel rhan o raglen ail-adeiladu. Mae plethora o herodraeth a bwystfilod i’w gweld ar y drws, ac mae’r mur uwchlaw wedi ei leinio â rhwyllwaith llifeiriol o amgylch ffurf cerfwedd. O bobtu’r drws, gellir gweld cilfachau â chanopi fyddai’n wreiddiol wedi cynnwys cerfluniau.
Comisiynwyd y model gan yr Eglwys yng Nghymru ac fe’i lluniwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn 2019, o flaen gwaith i atgyweirio a diogelu’r eglwys oherwydd bod y gwaith cerrig yn cael ei ddifrodi gan erydiad a llygredd.
Comments