Caer arfordirol gynhanesyddol bwysig y mae erydiad ar yr arfordir a’r tir yn cael effaith sylweddol arni yw Dinas Dinlle. Ni wyddom pryd yr adeiladwyd y gaer, ond credir iddi gael ei chodi yn ystod yr Oes Haearn ac iddi gael ei defnyddio o bosibl i amddiffyn y trigolion rhag llwythau rhyfelgar cyfagos ac, efallai, y goresgynwyr Rhufeinig.
Credir bod tua chwarter y safle wedi’i golli i erydiad a bod olion archaeolegol gwerthfawr wedi mynd i ddifancoll o ganlyniad, gan gynnwys yr amddiffynfeydd gorllewinol a rhan o’r tu mewn.
Fel rhan o’r Prosiect CHERISH, byddwn yn ymchwilio i Ddinas Dinlle ac yn ei monitro’n ofalus er mwyn dysgu mwy am hanes y safle cyn i fwy ohono gael ei golli.
I ddarganfod mwy am Ddinas Dinlle ewch i Coflein: https://coflein.gov.uk/en/site/95309/details/dinas-dinlle-hillfort-llandwrog
I ddarganfod mwy am y Prosiect CHERISH ewch i’n gwefan: http://www.cherishproject.eu/cy/
Comments