Mae olion ‘coedwig danddwr’ gynhanesyddol ar Draeth Niwgwl yn Sir Benfro, i gyfeiriad pen deheuol y traeth, ger Trwyn Mildenhall.
Daeth rhan o goeden tua 5.5m o faint i’r golwg yn ystod hydref 2021, ac roedd haenau cysylltiedig o fawn a thameidiau o ganghennau o’i chwmpas. Cafodd samplau o’r canghennau eu dyddio’n ôl i tua 4,000CC, sy’n cyd-fynd â’r dyddiadau cyffredinol ar gyfer coedwigoedd tanddwr eraill o amgylch arfordir Cymru.
Mae safleoedd tebyg i’r safle hwn yn weddillion hen dir, a oedd yn aml wedi’i goedwigo, a foddodd ac a ddiflannodd dan y dŵr wedyn wrth i lefelau’r môr godi yn dilyn diwedd yr oes iâ ddiwethaf. Weithiau, bydd dyddodion mawn yn cynnwys olion traed pobl a gerddai yno ar un adeg, neu’r anifeiliaid yr oeddent yn rhannu eu tirwedd â nhw.
Mae’r safle wedi’i restru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: NPRN544148 https://coflein.gov.uk/cy/safle/544148/
Cafodd y gwaith ei gyflawni’n rhan o Brosiect CHERISH. I gael gwybod mwy, ewch i’n gwefan: http://www.cherishproject.eu/en/
Comments