Dyma un o’r nifer o flociau a ganfuwyd oedd yn cynnwys rhan o sgerbwd y deinosor Jwrasig bach, Dracoraptor hangani. Cafodd ei ddarganfod yn 2014 gan y brodyr Nick a Rob Hanigan. Theropod yw’r deinosor, tua 50cm o daldra, a chanddo gynffon hir. Mae’r esgyrn deinosor i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ochr yn ochr â model maint llawn a grëwyd gan y palaeo-artist Bob Nicholls, sy’n dangos sut y byddai’r deinosor wedi edrych pan oedd yn fyw, 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
One of several blocks containing the partial skeleton of the small Jurassic dinosaur Dracoraptor hangani. Discovered in 2014 by brothers Nick and Rob Hanigan, it is a theropod, about 50cm tall, with a long tail. The dinosaur bones are currently on display at Amgueddfa Cymru – National Museum Cardiff along with a life-size model created by the palaeoartist Bob Nicholls showing how it looked when it was alive 200 million years ago.
Comments