Saif y grŵp hwn o bedair odyn galch ar y draethlin wrth ymyl Harbwr Solfach yn Sir Benfro. Maent i’w gweld mewn paentiad sy’n dyddio’n ôl i 1795 ac roeddent yn cael eu defnyddio cyn y dyddiad hwnnw. Mae peiriau (topiau) tair o’r odynau wedi’u llenwi, ond mae odyn rhif 1 ar agor o hyd. Y strwythur sgwâr yw wal isaf cwt y llosgwr calch. Mewn rhai mannau mae modd gweld ble mae’r odynau wedi’u hadfer ar ôl cael eu difrodi gan stormydd, ac mae rhan o amddiffynfa fôr fodern i’w gweld ger odyn rhif 1.
Diben gwreiddiol yr odynau oedd llosgi calchfaen a gâi ei fewnforio ar longau. Byddai’r calch a gâi ei gynhyrchu o’r broses hon yn cael ei daenu ar gaeau wedyn er mwyn eu gwneud yn fwy cynhyrchiol a gwrthweithio asidedd naturiol priddoedd yr ardal. Câi’r calch ei ddefnyddio hefyd i wneud morter calch ar gyfer gwaith adeiladu. Byddai’r glo a oedd yn bwydo’r odynau calch yn cael ei fewnforio ar longau hefyd.
Cafodd yr odynau calch eu cofnodi ar 17 Ebrill 2023. https://coflein.gov.uk/cy/safle/40731/
Comments