Roman figurine of Mercury from Llys Awel, Conwy3D ModelNoAI
Dyma ffiguryn aloi copr o’r duw Mercher (88mm o daldra), sy’n noeth heblaw am gap adeiniog a chlogyn dros ei ysgwydd a’i fraich chwith. Mae ganddo gwdyn arian yn ei law dde. Mercher yw’r duw sydd wedi’i bortreadu amlaf ym Mhrydain. Ei rôl glasurol yw honno fel negesydd ac, yn bwysicach fyth, fel noddwr masnachwyr, teithio, masnach a chrefftau. Mae cryn ôl traul ar y ffiguryn, a all awgrymu ei fod wedi’i gario mewn poced neu bwrs fel swynogl.
A copper alloy figurine of the god Mercury (height 88mm), portrayed naked, except for a winged hat and a cloak draped over his left shoulder and arm. In his right hand he holds a money bag. Mercury is the best represented divinity in Britain. His classical role is one of a messenger and, more importantly, as patron of merchants, travel, trade and crafts. The figurine is very worn, which may indicate that it had been carried in a pocket or purse as a good luck charm.
Accession number 81.35H/2
Comments