Mae olion ‘coedwig danddwr’ gynhanesyddol ar Draeth Niwgwl yn Sir Benfro, i gyfeiriad pen deheuol y traeth, ger Trwyn Mildenhall. Daeth rhan o goeden tua 5.5m o faint i’r golwg yn ystod hydref 2021, ac roedd haenau cysylltiedig o fawn a thameidiau o ganghennau o’i chwmpas. Cafodd samplau o’r canghennau eu dyddio’n ôl i tua 4,000CC, sy’n cyd-fynd â’r dyddiadau cyffredinol ar gyfer coedwigoedd tanddwr eraill o amgylch arfordir Cymru. NPRN544148 https://coflein.gov.uk/cy/safle/544148/
The remains of a prehistoric ‘submerged forest’ are located at Newgale Sands, Pembrokeshire, towards the southern end of the beach, near Mildenhall Point. A c.5.5m section of tree was exposed in the autumn of 2021, surrounded by associated layers of peat and fragments of branches. Samples from the latter returned a date of c.4,000 BC, matching the general dates for other submerged forests around the coasts of Wales. NPRN544148, https://coflein.gov.uk/en/site/544148
Comments