Tŷ Crwn 1024 Dinas Dinlle, Cloddiadau 20213D ModelNoAI
Mae bryngaer Dinas Dinlle yn edrych dros y môr o’i safle ar ben bryn ynysig o waddodion drifft rhewlifol ar wastadedd arfordirol gogledd Llŷn. Byddai’r gaer, y credir ei bod yn dyddio i’r cyfnod cynhanesyddol, wedi’i hamddiffyn yn wreiddiol gan ddau ragfur o bridd gyda ffos fawr yn y canol. Mae erydu sylweddol wedi cael gwared ar yr holl olion ar yr ochr tua’r môr ond mae’r amddiffynfeydd yn dal yn weladwy o’r de, y dwyrain a’r gogledd.
Yn dilyn cloddfeydd asesiadol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (2019, a gyllidwyd gan Prosiect CHERISH, cynhaliwyd gwaith cloddio pellach yn ystod Awst/Medi 2021.
Cynhaliwyd y rhaglen hon o gloddio gan YAG gyda chymorth grant gan, ac â chydweithrediad gyda Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prosiect CHERISH a’r Gronfa Datblygiad Cynaladwy (a weinyddir gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn). Cynhaliwyd y prosiect fel cloddfa gymunedol gyda goruchwyliaeth gan staff YAG.
Mae’r model hwn yn dangos y tŷ crwn a gloddiwyd yn ffos 1.
Comments